Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27
Mehefin 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Carwyn Jones:
Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(90 munud)
(60 munud)
(60 munud)
NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.
4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.
'Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o'i gylch gwaith.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.
(15 munud)
NDM6351
Mark Drakeford (Gorllewin
Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
Dogfennau Ategol
Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi
(Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Datganiad y Llywydd Yn unol ag Adran
111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
(60 munud)
Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 28 Mehefin 2017